Rhif y ddeiseb: P-06-1425

Teitl y ddeiseb: Gofynnwn i Lywodraeth Cymru wyrdroi ei phenderfyniad i atal bysiau T2 rhag galw yng Ngarndolbenmaen

Geiriad y ddeiseb: Ar 5 Tachwedd 2023, cafodd amserlen fysiau newydd ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru a chafodd y gwasanaeth T2 drwy Garndolbenmaen ei dynnu’n ôl, sy’n golygu nad yw’r bysiau T2 yn galw yn y pentref mwyach.

Bellach, mi fydd bron yn amhosibl i bobl Garndolbenmaen deithio i'r gwaith, i'r ysgol neu i apwyntiadau ysbyty.

Nid oes unrhyw ymgynghori o gwbl wedi bod â phobl Garndolbenmaen ar y newidiadau hyn i’r gwasanaeth bws T2.

Gellid datrys y rhan fwyaf o'r problemau hyn heb fawr ddim cost ychwanegol petai'r gwasanaeth T2 yn parhau i alw yng Ngarndolbenmaen. Dim ond dargyfeiriad o 8 munud ychwanegol fyddai ei angen (llai na dwy filltir ychwanegol) pe bai’r holl fysiau T2 yn parhau i alw yng Ngarndolbenmaen. Byddai'r mân wariant ychwanegol hwn yn cael ei liniaru trwy osgoi gwariant cyhoeddus ar dalu am deithiau tacsi i fyfyrwyr ysgol a'r bobl hynny ar incwm isel sy'n teithio i Ysbyty Gwynedd ar gyfer apwyntiadau. Byddai hefyd yn adfer gwasanaeth bws defnyddiol rhwng Garndolbenmaen a Chricieth sydd bellach wedi’i gynnwys yn llwybr bws newydd y T2.

Mae’r cynnig ymarferol hwn i ddatrys y broblem eisoes wedi’i awgrymu gan Steve Churchman, y cynghorydd lleol, a byddai’n ddefnyddiol pe bai unigolion eraill hefyd yn cefnogi’r ymgyrch hon i gadw’r gwasanaeth T2 ar gyfer pobl Garndolbenmaen.


1.        Cefndir

TrawsCymru yw'r rhwydwaith bysiau pellter canolig a phellter hir yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys amrywiaeth o wasanaethausy’n cysylltu cyrchfannau ledled Cymru ac mewn rhai achosion yn Lloegr.

Yn flaenorol, roedd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a oedd yn caffael gwasanaethau TrawsCymru ar ei rhan. Ers 2021 mae'r broses gaffael wedi cael ei harwain gan Trafnidiaeth Cymru (TrC).

Mae'r T2 yn cysylltu Bangor ag Aberystwyth. Ym mis Tachwedd 2023 cyhoeddodd TrC newidiadau i'r T2 a'r T3, gan gynnwys: “Bydd T2 nawr yn gwasanaethu Cricieth yn lle Garndolbenmaen a fydd yn cael ei wasanaethu gan T22 newydd a fydd yn ymuno â’r gwasanaeth yn fuan.”

Cafodd y T22 ei gyflwyno ar 12 Chwefror, yn cysylltu Caernarfon, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog. Mae’r amserlen yn dangos bod hyn yn darparu 6 gwasanaeth i bob cyfeiriad o ddydd Llun i ddydd Sadwrn sy'n stopio yng Ngarndolbenmaen. Nid yw'r gwasanaeth yn stopio yn y pentref ddydd Sul ac nid yw'n ymddangos bod gwasanaeth arall ar gael.

Er nad yw'r hen amserlen T2 ar gael bellach ar wefan TrawsCymru, mae adroddiadau'r cyfryngau yn dangos y cafodd Garndolbenmaen ei wasanaethu gan ddeunaw gwasanaeth bws T2 Traws Cymru bob dydd, gyda phump o wasanaethau ar ddydd Sul.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru darged, erbyn 2040, y bydd 45 y cant o deithiau’n cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn cerdded ac yn beicio. Disgwylir Bil diwygio bysiau yn ystod y Senedd hon y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd yn helpu i gyflawni'r nod hwn.

Fel y mae’r erthygl hon gan wasanaeth Ymchwil y Senedd yn ei ddangos, mae niferoedd teithwyr bysiau wedi bod yn lleihau ledled Prydain Fawr, gan gynnwys Cymru, ers sawl blwyddyn. Gwelodd y pandemig ddirywiad cyflym nad yw wedi gwella.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cymorth brys i’r diwydiant bysiau ers i nifer y teithwyr gwympo o ganlyniad i’r pandemig. Yn fwyaf diweddar, cyhoeddodd £39m yn y flwyddyn ariannol bresennol ar ffurf y Grant Rhwydwaith Bysiau ar gyfer awdurdodau lleol i “sicrhau gwasanaethau bysiau y maent o’r farn eu bod yn angenrheidiol yn gymdeithasol na fydd y farchnad fasnachol yn eu darparu”. Mae’r datganiad yn dweud y bydd y Grant Rhwydwaith Bysiau yn “gweithredu fel pont rhwng yr arian brys a ddarparwyd i fasnachfreinio bysiau”.

Mae’r llythyr gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y ddeiseb hon yn disgrifio’r newidiadau i’r gwasanaethau a nodir uchod. Mae’n dweud:

Ar ôl ystyried y galw ymhlith teithwyr fel rhan o'r newidiadau hyn, penderfynodd Trafnidiaeth Cymru ailgyfeirio gwasanaeth T2 trwy Gricieth a Rhoslan yn hytrach na thrwy Dolbenmaen a Garndolbenmaen, fydd yn cael eu gwasanaethu yn lle hynny gan wasanaeth T22 newydd TrawsCymru sy'n cysylltu'r ddau bentref â'r gwasanaeth bws rheolaidd i Gaernarfon a Phorthmadog.

Nid yw'r llythyr yn cyfeirio at y gostyngiad ymddangosiadol yn amlder y gwasanaethau, na’r diffyg gwasanaeth ar y Sul.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr tynnodd Mabon ap Gwynfor AS sylw at effaith y newid i'r gwasanaeth T2 ar fyfyrwyr, a'r ffaith bod y bennod ar wasanaethau bysiau yng Nghynllun Cyflawni Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Trafnidiaeth 2022 i 27 yn nodi bod "[d]ull strategol o ddylunio gwasanaethau" yn cael ei ddatblygu. Aiff ymlaen i ddweud:

Bydd y gwasanaethau a ddylunnir gennym yn adeiladu ar y gwaith ymgysylltu helaeth rydym wedi'i wneud wrth ddatblygu Bws Cymru. Byddwn hefyd yn ymgynghori ag awdurdodau lleol a grwpiau defnyddwyr ynghylch unrhyw newidiadau yn y dyfodol cyn gwneud unrhyw newidiadau mawr.

Gofynnodd yr Aelod yr hyn a ganlyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y pryd:

… a ydych chi'n meddwl ei bod hi'n iawn bod Trafnidiaeth Cymru ddim wedi ymgynghori efo defnyddwyr y bysus a’r cymunedau hynny, ac a wnewch chi edrych eto i sicrhau bod cymunedau Garndolbenmaen, Llanuwchllyn, Llandderfel ac eraill yn cael y gwasanaeth llawn yna sydd ei angen arnyn nhw?

Ymatebodd y Dirprwy Weinidog drwy ymddiheuro am y tarfu ar wasanaethau, gan egluro bod TrC wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd yn cynllunio "newidiadau i'r rhwydwaith i ddarparu gwasanaeth gwell ar y coridor rhwng Caernarfon a Blaenau Ffestiniog" gan gyfeirio at y T22. Esboniodd y bu "ychydig o oedi" wrth lansio'r gwasanaeth T22 o ganlyniad i anawsterau wrth gyflwyno cerbydau trydan, a nododd ddyddiad lansio disgwyliedig ym mis Chwefror.  

Ar 9 Ionawr, yn ystod y ddadl ar Gyllideb Ddrafft 2024-25, tynnodd Delyth Jewell AS sylw at y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i gefnogi gwasanaethau rheilffyrdd TrC yn y gyllideb, gan ddweud:

… tra bod y symiau enfawr hyn o arian yn cael eu defnyddio i lenwi tyllau yng nghyllideb rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, mae gwasanaethau bysiau yn cael eu hamddifadu o gyllid. Dros y penwythnos, fe ddysgon ni fod gwasanaeth bws T2 drwy Garndolbenmaen wedi cael ei ddileu ar fyr rybudd. Ddiwedd y llynedd gwelsom gwasanaeth Bwcabus, a oedd yn cysylltu rhai o'r cymunedau mwyaf ynysig, yn ddaearyddol, yn ne-orllewin Cymru yn cael ei gau. Dim ond ychydig enghreifftiau yw'r rhain o batrwm ehangach o erydu gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes mynediad at y rhwydwaith rheilffyrdd, neu yn wir yng nghymunedau'r Cymoedd, lle mae llawer llai o bobl yn berchen ar gar o gymharu ag yn y dinasoedd.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.